Polisiau

Mae traethlin Gorllewin Cymru wedi'i rhannu'n 309 o adrannau byr o'r enw ‘Unedau Polisi’. Ar gyfer pob adran, argymhellir un o'r pedwar opsiwn polisi canlynol:

 

Dim Ymyriad Gweithredol (NAI)

Lle nad oes unrhyw fuddsoddi mewn
amddiffynfeydd na gweithrediadau ar yr arfordir

Cadw’r Llinell (HTL)

Trwy gynnal neu newid safon yr amddiffyniad. Dylai’r polisi hwn gwmpasu’r sefyllfaoedd hynny lle mae gwaith neu gamau gweithredu’n cael eu gwneud o flaen yr amddiffynfeydd presennol  i wella neu gynnal safon yr amddiffyniad sy’n cael ei ddarparu gan y llinell amddiffyn bresennol.

Adlinio Rheoledig (MR)

Trwy adael i’r draethlin symud yn ôl neu ymlaen, gyda rheolaeth i gadw trefn neu gyfyngu ar y symudiad.

Symud y Llinell Ymlaen (ATL)

Trwy adeiladu amddiffynfeydd newydd ar ochr y môr i’r amddiffynfeydd gwreiddiol.

 

Darperir opsiwn polisi ar gyfer pob un o'r tri chyfnod (20, 50 a 100 mlynedd) ar gyfer pob rhan o'r arfordir. Gall opsiynau polisi newid ar gyfer gwahanol gyfnodau ar gyfer yr un darn o arfordir. Er enghraifft, yr opsiwn polisi ar gyfer uned bolisi benodol fyddai ‘Cadw’r Llinell’ ar gyfer y cyfnod cyntaf (0 - 20 mlynedd), gan newid i ‘Adlinio Rheoledig ' ar gyfer y cyfnod nesaf (20 - 50 mlynedd).


Dylid nodi nad yw'r polisïau yn y CRhT yn cynnwys manylion penodol ar gyfer cynlluniau o ran gwneuthuriad, dyluniad na safon yr amddiffyniad.